Cymru yw Gwlad y Gân yn ôl y sôn ac mewn arddangosfa aml-gyfrwng yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth caiff ymwelwyr y cyfle i weld beth yw’r sail i’r honiad hwnnw!
Cynhelir arddangosfa Encore! - cerddoriaeth yng Nghymru rhwng 3 Mai a 29 Hydref 2005 a’i hagor yn swyddogol ar nos Wener 20 Mai. Mae’r arddangosfa yn eang ei diddordeb gan ymestyn o’r Canol Oesoedd i’r ffansîns a’r CDs diweddaraf.
Un o’r eitemau pwysicaf i’w dangos bydd llawysgrif enwog Robert ap Huw o tua 1613. Dyma’r llawysgrif gynharaf o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig a’r llawysgrif hynaf mewn bodolaeth o gerddoriaeth i’r delyn. Peth o hynodrwydd y llawysgrif yw i Robert ap Huw ysgrifennu’r gerddoriaeth yn ei nodiant ei hun. Achosodd dyfeisiad cerddorol y dyn o Fôn grafu pen am flynyddoedd maith wrth i gerddorion (ysgolhaig a lleyg) geisio dyfalu beth oedd ystyr a sain y nodau. Cymaint oedd enwogrwydd y llawysgrif ar y pryd fel i Vivaldi sôn amdano, a hyd heddiw mae cerddorion o Gymru a thramor (ac yn enwedig yr Iwerddon) yn gwneud defnydd helaeth ohono. Cedwir y llawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig a daw i arddangosfa Encore! drwy garedigrwydd y Llyfrgell honno.
Cefnogir yr arddangosfa gan Gwmni Recordiau Sain cyf. Mae Sain hefyd yn darparu chwaraewr MP3 gyda chasgliad o’i holl ganeuon arni i’w roi fel gwobr yn ystod yr arddangosfa.
Ymysg y casgliadau eraill hynod yn arddangosfa Encore! mae:
• Llawysgrif wreiddiol o Hen Wlad fy Nhadau (dan yr enw gwreiddiol Glan Rhondda)
• Copi o’r London Illustrated News 1873 pan alwyd Cymru’n ‘Wlad y Gân’. Gwnaed hyn yn dilyn llwyddiant Côr Undebol De Cymru wrth gipio’r Challenge Cup yn y Palas Grisial.
• Antient British Music – cyhoeddiad print cynharaf o gerddoriaeth Gymreig, 1742
• Archif Y Blew – y grŵp pop Cymraeg cyntaf
• Rhifynnau o gylchgronau pop Cymraeg Asbri, Sgrech a Selar
• Ffotograffau o Ivor Novello, Cerys Matthews, Super Furry Animals a Tom Jones, a llu o ser cerddorol eraill Cymru, yn gyfoes a chynnar.
• Portreadau o Bryn Terfel a Syr Geraint Evans
• Blwch sgrech o recordiau cyfoes Sain
Mae nifer o ddigwyddiadau hefyd wedi eu trefnu i gyd-fynd â’r arddangosfa gan gynnwys noson yng nghwmni’r canwr a’r sefydlwr cwmni recordiau, Dafydd Iwan; perfformiad gan y telynor teires, Robin Huw Bowen; darlith ar lawysgrif Robert ap Huw, dangosiadau ffilm a nosweithiau o gerddoriaeth jazz, gwerin a chlasurol.
Encore! – Cerddoriaeth yng Nghymru
3 Mai – 29 Hydref 2005
Mynediad am ddim
Gwybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins, Swyddog y Wasg: 01970 632902 sij@llgc.org.uk