Croeso i Cerdd Ystwyth...
Rydym yn siop gerddoriaeth cyffredinol yn gwerthu copiau cerdd, crynoddisgiau a thapiau ac offerynnau, wedi ein lleoli yn Aberystwyth - tref brifysgol fechan mewn safle bendigedig ar arfordir orlleninol Cymru.Rydym yma ers 21 mlynedd, ac wedi sefydlu'n hunain fel darparwyr gwasanaeth drwy'r post cyflym a dibynadwy. Mae gennym gwsmeriaid led led Cymru, Prydain Fawr ac o amgylch y byd sy'n gwerthfawrogi'n gwasanaeth cyfeillgar, gwybodus a chyflym, yn ogystal â'r amrwyiaeth o stoc sydd gennym.
Mae enw'r siop, a allai ddrysu pobl y tu allan i Gymru, yn un dwyieithog. Tu fewn i Gymru fe'n hadnabyddir fel arfer fel "Cerdd Ystywth", y ffurf Gymraeg o "Ystwyth Music". Ystwyth yw'r enw ar un o'r afonydd sy'n llifo i'r môr yn y dref.
Rydym yn gweithredu'n ddwyieithog, gan ddelio â llawer o'n cwsmeriaid yn gyfangwbl yn Gymraeg. Er yn ganrifoedd oed, mae'r Gymraeg yn iaith fyw iawn, ac mae unigolion, ysgolion a sefydliadau'n gwerthfawrogi'r cyfle i ddelio â ni yn eu dewis o iaith. Y Gymraeg yw mamiaith miloedd o bobl yng Nghymru ac ar draws y byd.
Byddwn yn datblygu'r safle hwn gan ychwanegu manylion am sto'c, cyhoeddiadau newydd a gwybodaeth am gerddoriaeth yng Nghymru. Roeddem yn awyddus i greu fframwaith o'r math o wasanaeth sydd ganddom y'w gynnig, fel y gallwn ymateb i'r galw. Bydd croeso i chi awgrymu y mathau o ddatblygiadau yr hoffech; A hoffem fod yn gysylltfan i'r rhai sydd yn byw tu allan i Gymru i gadw mewn cysylltiad.
|
Welcome to Cerdd Ystwyth...
We are a general music shop, selling sheet music, CDs, tapes and instruments, based in Aberystwyth, a small university town in a beautiful location on the west coast of Wales.
We've been here for twenty-one years and have established ourselves as a fast reliable mail-order supplier. We have customers throughout Wales, the UK and around the world, who tell us they value our friendly, knowledgeable and fast service, and the variety of stock that we carry.
The name of the shop, which may puzzle people outside Wales, is bilingual. Within Wales we are known mainly as "Cerdd Ystwyth", the Welsh form of "Ystwyth Music", "Ystwyth" being the name of one of the rivers reaching the Irish sea from our town.
We operate bilingually and deal with many of our customers entirely in Welsh. Although centuries old, Welsh is very much a living language and individuals, schools and organizations value the chance to do business through the language in which they are most at ease. It is the first language of thousands of people, in Wales and across the World.
We will be developing this site with more details about stock, new publications and news about music in Wales. We wanted to create a framework of the range of services we can offer, so that we can respond to demand. We'd welcome feedback, and suggestions as to which areas to develop; and we'd like to be a contact point for those living outside Wales to keep in touch. |